Prosiect SHE
Mae Prosiect SHE yn fenter sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, gyda chyrhaeddiad cenedlaethol a gweledigaeth ryngwladol. Sefydlwyd y prosiect gan Aisha-Monic Namurach, Ms Voluptuous Celtic Nations. Gan dynnu ar ei phrofiad yn y trydydd sector, yn enwedig ym maes HIV ac iechyd rhywiol, ac ar ei hastudiaethau MSc mewn Iechyd Cyhoeddus, mae Aisha yn angerddol dros rymuso menywod o gymunedau sydd heb wasanaethau a chymorth digonol i gymryd rheolaeth dros eu hiechyd rhywiol a’u llesiant.
Drwy ddarparu addysg iechyd rhywiol hygyrch, gwybodaeth am brofi a dulliau atal, a dosbarthu condomau, nod Prosiect SHE yw sicrhau bod gan fenywod a’u partneriaid y wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd rhywiol. Mae’r fenter yn hyrwyddo cynhwysiant, grymuso a mynediad teg at wybodaeth, gan helpu i sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl yn uchelgais Cymru i gyflawni sero trosglwyddiadau HIV newydd erbyn 2030 a dileu stigma sy’n gysylltiedig â HIV.
Mae Fast Track Cymru yn falch o gefnogi Prosiect SHE drwy ddarparu adnoddau, cydweithio ar weithgareddau ymgysylltu â’r gymuned, a chreu cysylltiadau ag sefydliadau a phartneriaid er mwyn helpu i ehangu cyrhaeddiad y prosiect. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i wella mynediad at wybodaeth am iechyd rhywiol, hyrwyddo atal HIV a herio stigma, gan sicrhau bod menywod yn ganolog i nodau Cymru ym maes iechyd rhywiol a HIV.