Fast Track Cymru Bulletin - July 2025
Sgroliwch i lawr am fersiwn Gymraeg y bwletin
Dear Friends and Stakeholders,
As summer reaches its peak, Fast Track Cymru continues to grow stronger thanks to your collaboration, activism and belief in a Wales without new HIV transmissions and zero HIV Stigma. We’re pleased to share highlights, developments, and what’s ahead.
Fast Track Newport becomes Fast Track Gwent
We’re proud to announce that Fast Track Newport has re-signed the Paris Declaration as Fast Track Gwent. This marks a broader regional commitment across the Aneurin Bevan Health Board area to stop HIV transmissions and tackle inequalities through coordinated prevention, testing, treatment and support.
Pride season 2025
This Pride season, we’ve been out across Wales, rural towns and cities alike, engaging hundreds, answering questions, distributing thousands of leaflets, and standing proudly with our communities. At a time of rising threats to LGBTQ+ rights, we remain committed to advocate for vulnerable people. Check out our video at Pride Cymru here.
Tackling Stigma through Training
We’ve delivered HIV and stigma reduction training across several Health Boards. Co-produced with people living with HIV, these sessions also cover hepatitis, TB, and STIs, and have been received with strong positive feedback. Interested in training sessions for your organisation or communities? Email: FastTrackCities@hiv.wales
Young people: RSE and HIV
Our work on embedding HIV into Relationships and Sexuality Education (RSE) continues. We’ve consulted young people and professionals across Wales to shape our upcoming Gilead-funded resources, launching nationally this September to support educators and empower learners. For more information email FastTrackCities@hiv.wales
Coming soon: Youth Art Competition & Senedd Exhibition
Launching alongside our RSE resources, the Fast Track Cymru National Art Competition invites young people to respond creatively to HIV, stigma and solidarity. Winning entries will be showcased at the Senedd for World AIDS Day 2025. Keep an eye on further bulletins and social media posts for how to take part.
Red Ribbon Project: Stories, Struggle and Strength
We were honoured to support the Red Ribbon Project at Cardiff’s Reardon Smith Theatre. The event featured a moving panel chaired by Dr Adam Williams, followed by a powerful musical performance from Gonçalo Fernandes and his ensemble, capturing the grief, resilience and hope that fuels our movement. Read more about the project here.
Welcome to Our New Chair: Dr Olwen Williams OBE
We’re thrilled to welcome Dr Olwen Williams OBE as Chair of our Board. A national leader in health equity, Olwen brings passion and clinical expertise:
“It’s a privilege to chair the only Welsh based charity dedicated to ending HIV transmissions and raising awareness of HIV and related conditions. I have dedicated my clinical career to people living with and affected by HIV, so progression from an advocate to an activist seemed a natural step. I look forward to working with our partners, our experienced board of trustees and the staff.”
Contact Olwen at: ChairFastTrackCymru@outlook.com
Sexual Health Campaigns in Wales
A new Mpox and Sexual Health campaign vaccination is in the making! Alongside the well-established sexual health campaigns in Wales, such as “Wales HIV Testing Week”, “Stop HIV Stigma”, and “Are You PrEPped?”, Public Health Wales is developing a vaccination promotion campaign. Do you want to help shape and deliver this news campaign? Find out more about the campaign here.
Wales to become the first Fast Track Nation
This July, at the Royal Welsh Show, Wales will make history as the world’s first Fast Track Nation. This milestone is thanks to national collaboration and your support. We look forward to continuing our work together.
Please continue to invite us to community events and opportunities to stop stigma and share free resources.
With thanks and solidarity,
The Fast Track Cymru Team
Annwyl ffrindiau a rhanddeiliaid,
Wrth i’r haf gyrraedd ei anterth, mae Fast Track Cymru yn parhau i dyfu’n gryfach diolch i’ch cydweithrediad, eich eiriolaeth a’ch cred mewn Cymru heb unrhyw drosglwyddiadau newydd o HIV ac yn rhydd o stigma HIV. Rydym yn falch o rannu uchafbwyntiau, datblygiadau, a’r hyn sydd i ddod.
Fast Track Casnewydd yn dod yn Fast Track Gwent
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Fast Track Casnewydd wedi ail-lofnodi Datganiad Paris fel Fast Track Gwent. Mae hyn yn nodi ymrwymiad rhanbarthol ehangach ar draws ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i atal trosglwyddiadau HIV a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau drwy atal, profi, triniaeth a chymorth cydlynol.
Tymor Balchder 2025
Y tymor Balchder hwn, rydyn ni wedi bod ar draws Cymru, mewn trefi gwledig ac mewn dinasoedd, yn ymgysylltu â channoedd o bobl, yn ateb cwestiynau, yn dosbarthu miloedd o daflenni, ac yn sefyll yn falch ochr yn ochr â’n cymunedau. Ar adeg pan mae hawliau pobl LHDTQ+ dan fygythiad cynyddol, rydyn ni’n parhau i eirioli dros bobl fregus. Edrychwch ar ein fideo yn Pride Cymru yma
Mynd i’r Afael â Stigma drwy Hyfforddiant
Rydym wedi darparu hyfforddiant ar HIV a lleihau stigma ar draws sawl Bwrdd Iechyd. Wedi’i gyd-gynhyrchu gyda phobl sy’n byw gyda HIV, mae’r sesiynau hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am hepatitis, TB ac STIau, ac wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn. Eisiau sesiynau hyfforddiant ar gyfer eich sefydliad neu’ch cymunedau? Ebostiwch: FastTrackCities@hiv.wales
Pobl Ifanc: Addysg Rhyw a Pherthnasoedd (RSE) ac HIV
Rydym yn parhau i weithio i gynnwys HIV yn y cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd (RSE). Rydym wedi ymgynghori â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru i lunio’r adnoddau newydd a ariennir gan Gilead, a fydd yn cael eu lansio’n genedlaethol ym mis Medi eleni i gefnogi addysgwyr ac i alluogi dysgwyr. Am fwy o wybodaeth: FastTrackCities@hiv.wales
Yn Dod Yn Fuan: Cystadleuaeth Gelf Ieuenctid ac Arddangosfa yn y Senedd
Ynghyd â’n hadnoddau RSE, bydd Cystadleuaeth Gelf Genedlaethol Fast Track Cymru yn cael ei lansio, gan wahodd pobl ifanc i ymateb yn greadigol i HIV, stigma a chydsefyll. Bydd y ceisiadau buddugol yn cael eu harddangos yn y Senedd ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol AIDS 2025. Cadwch lygad am gylchlythyrau pellach a phostiadau cyfryngau cymdeithasol i ddarganfod sut i gymryd rhan.
Prosiect Rhuban Coch: Straeon, Strancio a Nerth
Roedd yn anrhydedd i ni gefnogi Prosiect Rhuban Coch yn Theatr Reardon Smith, Caerdydd. Roedd y digwyddiad yn cynnwys panel emosiynol dan gadeiryddiaeth Dr Adam Williams, ac yna perfformiad cerddorol grymus gan Gonçalo Fernandes a’i ensemble, yn dal y galar, yr wydnwch a’r gobaith sy’n tanio ein mudiad. Darllenwch fwy am y prosiect yma .
Croeso i’n Cadeirydd Newydd: Dr Olwen Williams OBE
Rydym wrth ein bodd yn croesawu Dr Olwen Williams OBE fel Cadeirydd ein Bwrdd. Mae Olwen yn arweinydd cenedlaethol ym maes cydraddoldeb iechyd ac yn dod ag angerdd ac arbenigedd clinigol:
“Mae’n fraint cadeirio’r unig elusen yng Nghymru sy’n ymroddedig i ddod â throsglwyddiadau HIV i ben ac i godi ymwybyddiaeth o HIV a chyflyrau cysylltiedig. Rwyf wedi neilltuo fy ngyrfa glinigol i bobl sy’n byw gyda ac yn cael eu heffeithio gan HIV, felly roedd symud o eiriolwr i ymgyrchydd yn gam naturiol. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’n partneriaid, ein bwrdd profiadol o ymddiriedolwyr a’r staff.”
Cysylltwch ag Olwen: ChairFastTrackCymru@outlook.com
Ymgyrchoedd Iechyd Rhywiol yng Nghymru
Mae ymgyrch frechu Mpox ac Iechyd Rhywiol newydd ar y gweill! Yn ogystal ag ymgyrchoedd iechyd rhywiol profedig Cymru fel “Wythnos Brofi HIV Cymru”, “Stopiwch Stigma HIV”, a “Wyt ti’n PrEPed?”, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu ymgyrch i hyrwyddo brechu. Eisiau helpu i lunio a chyflwyno’r ymgyrch newydd hon? Dysgwch fwy yma
Cymru’n dod yn Genedl Fast Track gyntaf y byd
Ym mis Gorffennaf, yn y Sioe Frenhinol, bydd Cymru’n gwneud hanes fel y genedl Fast Track gyntaf yn y byd. Mae’r garreg filltir hon yn bosib drwy gydweithio cenedlaethol a’ch cefnogaeth chi. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’n gilydd.
Parhewch i’n gwahodd i ddigwyddiadau cymunedol ac at gyfleoedd i herio stigma a rhannu adnoddau am ddim.
Gyda diolch a chydsefyll,
Tîm Fast Track Cymru